Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2004-05 Ysgol Llangaffo

Mawrth y Cyntaf

Mae'r gwynt yn chwythu a'r dail yn sgrechian,
Mae'n oer tu allan a'r cymylau'n swnian.
Y môr sy'n cwffio a'r meini'n crio,
Mae'r niwl yn cysgu a'r glaw yn brifo.
Yr haul sy'n cuddio ac yn cadw draw,
O'r nef daw mellt i estyn fel llaw.
Mae'r diwrnod yn ddu a'r Cymry yn drist,
Arwr ein gwlad a gwas Iesu Grist
A hunodd yn dawel, ei enaid yn rhydd.
Fe gofiwn am Dewi, ceidwad ein ffydd.

Plant Blwyddyn 5 a 6

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales