Mae'r môr yn glir ac yn dawel
A'r llongau'n hwylio ar y gorwel.
Dawnsia'r gwylanod ar y clogwyn
Yn nhawelwch yr awel addfwyn.
Tonnau glas ac ewyn gwyn
Awel fwyn a'r môr fel llyn.
Asyn llwyd yn mynd ar daith
Cerdded ar dywod tyner, llaith.
Mae'r haul yn sgleinio ar y traeth
A'r pysgod yn y rhwyd yn gaeth.
Arhoswn am y picnic blasus
A bwyta hufen iâ mefus melys.
Torheulo'n braf ar y traeth,
Aros yno am amser maith
Tan fod lliw y croen yn newid,
Ond yn y gaeaf bydd yn rhy rhewllyd.
Barrug clir ar donnau du
Neb yn tyrru yno'n llu.
Tywod di-gyffro gwyn yn llonydd
A'r gwynt main yn dangos cynnydd.
Mae'r traeth yn noeth a'r môr yn arw
Gorwedd y gwymon yn fud ac yn farw.
Yn dawel iawn a'r gwynt yn oer
A'r tonnau'n dawnsio dan olau'r lloer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales