Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2005-06 Ysgol Dihewyd

Grŵp Carys

Anodd iawn yw nofio 'mhell
Anodd iawn yw byw mewn cell
Anodd iawn yw bwyta cinio
Pan fo'r gogyddes yn fy ngwylio!

Rhai sy'n meddwl mod i'n ddigri
Rhai sy'n meddwl mod i'n 'funny'
Ond pan ddaw hi'n amser ysgol
Bydda' i yn reit ddifrifol.

Pentref tawel yw Tregaron,
Ar lan y môr cewch Aberaeron
Ond i mi y lle a garaf
Yw Dihewyd, y pentref delaf.

Mae tri pheth yn annwyl i mi
Fy nhedi a theganau di-ri
Ffrindiau da sydd yn fy helpu
A theulu clyd sydd yn fy ngharu.

Grŵp Bethan

Anodd iawn yw Mathemateg
Anodd iawn yw gwneud gymnasteg
Anodd iawn yw camfihafio
Pan fydd athro yn fy ngwylio!

Rhai sy'n meddwl mod i'n ddiog
Rhai sy'n meddwl mod i'n gegog
Ond pan fydd hi'n amser gwersi
Rhaid i mi weithio a thawelu.

Pentrefi pitw yw Mydroilyn
Cribyn, Ciliau a Chilcennin,
Ond fy hoff le yn y byd
Yw Dihewyd fy nghartref clyd.

Mae tri pheth yn annwyl i mi
Ffrindiau da sy'n hwyl a sbri
Cartref clyd sy'n llawn o gariad
Anwylach fyth yw Mam a Dad.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales