Anodd iawn yw llyncu carreg,
Anodd iawn yw Mathemateg,
Anodd iawn yw cadw'n heini
pan fo'n eistedd o flaen y teli.
Lle bach net yw tre Llanelli
ond well gen i Aberteifi,
lle bach tawel yw Felindre,
gwrthwyneb i Abertawe.
Mae tri peth yn annwyl i mi:
mae Sis y ci yn annwyl i mi;
mae mamgu a dadcu
ond all neb anghofio fy mrawd bach i.
Lle bach dda yw Pontardawe,
Lle prysyr yw Abertawe,
Ond un lle bach sy'n well gen i
yw tref fach brysur Llanelli.
Mae tri peth sy'n annwyl i mi:
mam a dad a Purdi y ci,
Ond y peth anwylaf i mi
yw magu fy chwaer fach Moli.
Rhai sy'n meddwl mod i mor sâl,
Rhai sy'n meddwl mod i mor dal,
Rwy'n siŵr fy mod yn ferch fach iach
Yn fyr, yn dew, 'run siâp â sach!
Lle bach da yw Rhyd y pandy,
Llefydd da yw'r Bont a'r Hendy,
Felindre i mi yw y gore,
Mae'n enwog am feirdd a'r Pethe.
Mae tri peth sy'n annwyl i mi:
Sef actio, adrodd a chanu,
Ond Douglas, fy ffrind ysgol i,
Beic modur sydd yn mynd â'i fri.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales