Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2005-06 Ysgol Rhydypennau

Gan "Dere 'Mlan, Chaps!"

Anodd iawn yw pysgota,
Anodd iawn yw brathu 'gobstopper',
Anodd iawn yw sgwennu'n daclus
Pan rwy'n teimlo mor anhapus.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n ddel,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n dawel,
Ond rwyn gwybod 'mod i'n ddrwg
Efo pen llawn o fwg!

Y llefydd gorau yw Caerdydd,
Abertawe a Phontypridd,
Castell Harlech a Phumlumon
A hwylio braf yn Aberaeron.

Gan y Pump Losin Du

Anodd iawn yw cadw'n dawel,
Anodd iawn yw teimlo'r awel,
Anodd iawn yw trio dysgu,
Pan fo chi eisiau cysgu.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n hapus,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n gariadus,
Ond ambell waith rwy'n mynd yn dawel,
Pan fy mod i'n teimlo'n isel.

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Cerdd, fy nghartref a fy nheulu,
Rhain yw'r pethau gwerthfawr iawn,
Sy'n goleuo fy mywyd yn llawn.

Lle cyffrous yw Aberteifi,
Aberhonddu a Chaergybi.
Dewch i'r Gwersyll yn Llangrannog,
i weld Mererid a'i chyfarfod.

Gan y Brainiacs

Anodd iawn yw odli,
Anodd iawn yw gwneud stori,
Anodd iawn yw codi'n gynnar,
Pan fo'r adar i gyd yn trydar.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n daclus,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n anhapus,
Ond gartref rydw i'n hapus,
Oherwydd mae gen i deulu cariadus.

Y Ffair fawr yn Mhwllheli,
Little Britain yn Llanddewibrefi,
Cerdded mynyddoedd ym Mannau Brycheiniog,
Edrych ar lechi ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae tri pheth yn annwyl i mi,
Gwylio'r Gweilch yn chwarae rygbi,
Mynd i nofio a gweiddi synau,
A fy nheulu a fy ffrindiau.

Gan y Piod

Anodd iawn yw stopio siarad,
Anodd iawn yw gadael cariad,
Anodd iawn yw gwneud ein gwaith
Pan fo pawb yn neud e'n waeth.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n gas,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n neud fy ngorau glas,
Ond pan rwy'n teimlo'n hapus
rwy'n gwybod fy mod i'n siaradus!!!!!!!!!!!!!!!

Chwarae rygbi yn Llanelli,
A phêl-droed yn Aberteifi,
Rhwyfo'r mor yn Aberdyfi,
Mynd i'r eglwys yn Nhyddewi.

Gan y Gweilch

Anodd iawn gwneud Addysg Grefyddol,
Anodd iawn yw bwyta cinio ysgol,
Anodd iawn yw rhedeg y ras hir,
Pan fo llond ceg o losin sur.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n ddiog,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n alluog,
Ond rwy'n gwybod 'mod i'n hapus
Pan rwy'n rhedeg yn y rasus.

Lle mawr yw Caerdydd,
Lle llai yw Pontypridd,
Tre'r Sgarlets yw Llanelli,
Lle ffair yw tre Pwllheli.

Mae tri pheth yn annwyl imi,
Llawer o lyfrau a storiau di-ri,
X-Box newydd danlli sbon,
A chrys y Gweilch o Siop y Don.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales