Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2005-06 Ysgol Tonyrefail

Grŵp Merched yn Unig

Anodd iawn yw mathemateg,
Anodd iawn yw gwneud gymnasteg,
Anodd iawn yw sgwennu pennill
Pan eich bod yn ceisio ennill.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n swynol,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n ddoniol,
Ond rwy'n hoffi bod yn fwli -
Fy ffrind gorau yw fy nhedi.

Grŵp Abbie

Anodd iawn yw ysgrifennu,
Anodd iawn yw mynd i'r gwely,
Anodd iawn yw gwneud Sudoku
Pan fo'r 'stafell yn llawn twrw.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n hyfryd
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n swnllyd
Ond go iawn dwi'n berson diog
Ac ychydig bach yn bigog.

Grŵp Bleddyn

Anodd iawn yw sgwennu stori,
Anodd iawn yw gyrru lorri,
Anodd iawn yw mynd i'r gwely
Pan fo'r haul yn dal i wenu.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n orffwyll,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n dywyll,
Ond rwy'n hapus ac yn llawen
Pan dwi'n hedhan fy awyren.

Grŵp Keryn

Anodd iawn yw datrys Cluedo,
Anodd iawn yw dysgu jiwdo,
Anodd iawn yw chwarae hoci
Pan fo'r peli yn rhai rygbi.

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n swnllyd
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n stwrllyd
Ond rwy'n ddistaw fel yr awel,
Rwyf yn hoffi cadw'n dawel

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n ofnus,
Rhai sy'n meddwl 'mod i'n rheibus,
Ond dwi ddim yn rhy ddieflig
Achos weithiau rwy'n garedig.

Grŵp Abbie

Dal y bws i fynd i Beddau,
Yna'r trên i dref Dolgellau,
Wedyn cerdded draw i Benfro,
Erbyn hyn dwi wedi blino!

Grŵp Bleddyn

Mynd i Lundain yn y bore,
Ton i mi sydd dal yn ore,
Wedyn lawr i Abertawe,
Gwell gen i yw dod 'nôl adre.

Grŵp Merched yn Unig

Mynd i aros i Langrannog,
Tonyrefail a Llanbedrog,
Llawer peth i'w gwneud sydd yno,
Ar nos Sadwrn mae 'na ddisgo!

Grŵp Keryn

Mynd i'r Barri ar fy ngwyliau,
Byddaf yn cael hwyl 'da ffrindiau,
Bwyta, nofio chwarae gemau,
Prynu het haul yn y siopau.

Grŵp Bleddyn

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Gwylio Cymru'n chwarae rygbi,
Mynd i'r ysgol i gael dysgu,
Wedyn adref i gael cysgu.

Grŵp Abbie

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Gweld Caerdydd yn chwarae hoci,
Mynd i'r pwll a nofio metr,
Ac arogli Cennin Pedr.

Grŵp Merched yn Unig

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Eistedd lawr a cwjo'r babi,
Mynd am wylie mewn awyren,
Rhoi fy arian i Plant mewn Angen.

Grŵp Keryn

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Mynd i'r parc a chwarae hoci,
Eistedd lawr ac yfed coffi,
Gwylio Cymru'n ennill rygbi!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales