Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Bro Brynach

Yr Anghenfil Licrys

Sliwen seimlyd
ag arogl saelej.
Gwallt du yn gwichian
fel chwip
yn cracio
cragen malwoden.

Cantel het ddu,
mwstash cyrliog,
llysnafeddog,
fel neidr amryliw,
lympiog.

Mae'n sur fel mwd
a sai'n mynd i'w fwyta!

Blas y bêl

Dwi'n blasu'r bêl-droed;
cyffro caled
lledr chwerw
a mwd.

Dwi'n clywed siocled;
llyfnder canu clasurol,
dail yn suo yn y coed,
yn crensian dan draed.

Dwi'n arogli'r haul;
saws tsili fel llosgfynydd,
tôst trwchus wedi llosgi.

Dwi'n gweld aer;
disgleirdeb tlysau,
paent olew aur ac efydd,
meddal fel menyn.

Dwi'n teimlo cwmwl;
stêm dwr poeth,
gwlân gludiog pinc
fel candi fflos
o'r ffair.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales