Tydi dail byth yn brifo,
ond mae eu blagur
fel dwrn castanét yn agor
wrth ddysgu sut i gyfri.
Pum bys bychan
yn ymestyn am yr haul,
fel esgrn brau
dan belydr X y golau.
Pigau fel gwinedd gwrach
yn suo swynion drwg
yn y gwynt.
Mi fedra i ddarllen
llinellau ei bywyd
ar ei chledr crebachlyd.
Gwaed gludiog y gwythiennau
Wedi ceulo fel paent plant bach.
Yna
mae’n chwifio ffarwél ar ei ffrindiau
a throelli fel hofrenydd
i’r ddaear:
conffeti crychlyd y ddawns olaf.
Ond wedi disgyn,
cymysgu â hen ffrindiau,
ffrindiau newydd.
Mae’r gwynt yn codi,
mae’r dail yn rhedeg
ling-di-long,
law-yn-llaw,
tua’r Gaeaf.
Mae dail yn gallu brifo,
a chwarae fel ninnau.
Mae’r ffrindiau gorau yn gariad i gyd,
yn ffyddlon i’w gilydd, yn glynnu fel glud,
yn canu a rhannu a rhedeg yn rhydd,
yn perthyn a chwerthin drwy gydol y dydd.
Ffrindiau agos o amgylch y bwrdd,
a ffrindiau sy’n byw yn bell i ffwrdd.
Ffrindiau swil a ffrindiau siaradus,
ffrindiau caredig a ffrindiau cariadus.
Rhaid helpu ffrindiau sy’n teimlo’n drist
A maddau bob amser fel ein ffrind Iesu Grist.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales