(Bu’r ysgol yn paratoi bocsys esgidiau ar gyfer yr elusen.)
Yn y bocs Nadolig
mi rown i degannau,
menyg a sgarff
a het a llyfrau.
Carol a chyffro
a chawod eira,
pêl fach, past dannedd,
a phâr o sanna.
Mae hwn i ti,
am fod mor dda,
i ti gael chwarae
drwy yr Ha’.
Dafydd a Daniel
A Ffion a Molly,
Shaun a Shannon,
Mrs Hicks a Holly.
Kaleb a Carys,
Rhys a William,
Nia Sharayah,
Lisa a Liam.
Geraint a Gareth
A Jo a Jordan,
Aled ac Anya,
Nicole a Nathan.
Oewn a Ben,
Ac Esther ac Ellie,
Emyr a Charlotte,
A Jake a Meleri.
Rhian a Ritchie
A Mrs Davies,
Mrs Towns
A phawb yn hapus!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales