Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Glancegin

Gwyntyll y paen

Wedi cau mae gwyntyll y paen,
ond wrth i bêl droed yr haul
gael cic dros y bryn,
mae’r plu yn agor eu llygaid yn araf
fel dail yn blaguro,
ffan yn ffrywydro,
wystrys egsotig
yn ymestyn i ddangos
perl ddu.

Pob pluen fel papur da-da,
gwyrdd, glas a phiws
yn enfys yn y gwynt.

Mae’r llaw liwgar
yn chwifio ar yr haul,
sy’n taflu conffeti aur
fel sêr gwîb sgleiniog
dros y byd.

Yna, mae’r gynffon yn cau
Fel consatina
cyn cwsg.

Nicashylecca’r Anghenfil

Mae croen yr anghenfil
Wedi’i wneud o wisg Man U.
Brech yr ieir ar ei ben-ôl
a’i ffroenau’n llawn o ffliw.

Sŵn rwbio menyg rwber
pan mae’n agor ei hen geg.
Tri tafod fel tri teigr
yn rhuo tair rheg.
Un lygad fel sgewyllen
ac un fel bresych melyn.
Un fel blodyn brocoli
a gwallt fel tannau telyn.

Dannedd nodwyddau tsili
a breichiau brwnt fel Chelsey,
ei wynt fel ward ysbyty
ac ogla cewyn babi.

Crafangau plisgyn cneuen,
un glust llawn tabl saith
a sŵn ewinedd ar fwrdd du,
a’r llall llawn gwymon a gwaith.

Aeliau fel pwmp asthma,
a chynffon fel bore dydd Llun.
Stumog fel salwch hedfan
ac alergedd i bob dyn.

Ei draed fel danal poethion
a’i goesau fel sgwennu sownd
yn cropian fel pry copyn
Wrth sleifio rownd a rownd.

Ond os ti’n gweld y bwystfil
Paid â bod ofn, da chdi.
Mi redith o i guddio
os welith o’n dosbarth ni!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales