Ni yw Blwyddyn saith
a ry’n ni 'di cael llond bol.
Maen nhw’n meddwl bod nhw’n well
na ni – hy! Lol!
Blwyddyn tair-ar-ddeg
y'ch chi wir yn anheg:
"Cadwch mas o’r llyfrgell!"
O plis jyst cau dy geg.
Blwyddyn un-deg-tri,
pam chi’n edrych lawr 'non ni?
Chi’n meddwl bod chi’n well
am eich bod chi’n gwisgo trowsus du?
A ddim yn gwisgo blêsyr,
a thei gwahanol liw?
Prynu pob un pizza
a gwthio i flaen y ciw?
Chi’n gadael gwersi’n gynnar,
a’r rheiny’n wersi rhydd!
Ond mi fyddwn ni fel chi rhyw ddydd,
ie, mi fyddwn ni fel chi rhyw ddydd!
Blwyddyn 7 Machen 1
Mae maes y gad
heb siw na miw,
a’r concrid caled yn oer.
Sgrech y gloch
fel corn rhyfel;
mae’r frwydr wedi dechrau.
Milwyr yn rhuthro,
carlamu’n chwim,
bagiau’n gwrthdaro
fel tarianau.
Peli fel bomiau,
yn saethu,
syrthio
yn erbyn arfwisg las.
Codi blêsyr
fel baner blwyddyn,
i ddangos yr arfwisg i’r gelyn.
Y gloch eto,
y gwrthwynebwyr yn cilio;
carcharorion yn y pwll pechu,
tan y frwydr nesaf...
Blwyddyn 7 Machen 2
Mynwent wag, ddi-liw
am hanner dydd,
y camau cyntaf,
distaw,
yn cyffwrdd y pridd.
Cyrff yn codi
ar ganiad y gloch,
gan lusgo eu traed
drwy’r mwd, fel moch.
Daw’r sombis yn fyw
ar ôl bwyta eu bwyd,
fel blodau amryliw
ar y concrid llwyd.
Yn sydyn daw sgrech
a chwerthin a chanu,
a sglodion a straeon
yn cael eu rhannu.
Pêl yn taro’r ffenest ddi-draidd,
bloedd yr athro fel udo blaidd:
"Ysgol yw hon, a nage gôl!"
A’r gloch yn galw’r cyrff yn ôl
Blwyddyn 8
Rhymni: Mae’n ddiwrnod i’r brenin
i Rhymni heddiw;
mae’n rapio fel llaeth mwnci,
yn eich gneud chi’n feddw!
Ebwy: Ry’n ni’n mynd i dorri’ch calon,
ry’n ni ar lefel uwch!
Mae eich odlau chi’n ddiflas
ac yn ddu fel bol buwch!
Llwyd: Mae’n bryd i chi i gyd roi’r ffidil yn y to,
neu mae 'na beryg ichi fynd o’ch co.
Dwi’n taro’r post i’r parad glywed:
mae’n curo ni yn waith hynod o galed!
Wysg: 'Dan ni’n cael pwl o chwerthin
wrth wrando arnoch chi.
A’ch gwynt yn eich dwrn
rhowch y wobr i ni!
Wrth wrando ar hyn
paid edrych yn syn;
Wysg yw y gore –
mae’n ddu a gwyn!
Blwyddyn 9
Plentyn swil yw’r lliw pinc,
yn ei gwers balé gyntaf.
Mae hi’n llifo hyd y llawr
fel pluen ysgafn,
ar goll.
Siglo ei goesau
chwe mlwydd oed
mae’r lliw gwyrdd,
ar fainc yn y parc.
Ei law fach yn ludiog
o hufen iâ,
wrth wylio’r dail
yn dawnsio.
Melyn – merch yn chwarae
ar draeth llawn ffrindiau,
ei gwallt yn gynnes,
a’i chwerthin yn felys wrth iddi droi,
fel blodyn
yn ddisglair at yr haul.
Menyw ariannog,
annibynnol yw coch,
yn hwylio’n hyderus,
a’i harogl persawrus
yn ei dilyn yn ufudd.
Gwyrddlas yw’r gorwel
ble mae’r môr a’r awyr
yn cymysgu fel hen gusan,
yn dawel,
yn oer
fel breuddwyd o eira.
Cynfas wen,
wag yw’r lliw gwyn,
i’w llenwi â syniadau,
syndodau,
fel darn o rew
ar dafod poeth.
Blwyddyn 12
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales