Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Llangelynnin

Ein hoff bethau

Mmmmmmmmmm!
Moron, melon, marmalêd a mefus,
menyn melyn ar fy ngwefus,
ffrwythau, fferins, ffôn a ffair,
ffarm, ffenest, ffan a gwair.

Gallu gweld y gwely glas,
y Gwanwyn gwyrdd sydd byth yn gas,
gwdihŵ’n hwtian yn hir yn y nos,
a’r lleuad llawn mor bell, mor dlos.

Cân Ein dosbarth bach ni

Annabel, Aaron a Madeleine,
Harriet, Jane ac Imogen,
William, Wil a Rhianna,
Lucia, Cerys a Jessica.

Elen, Lucy a Caitlin,
Sophie, Sam ac Erin,
Phoebe a Tommy,
Dyma fo ein dosbarth bach ni!

Cân: Nos a Dydd

Mae’r nos fel cath fawr ddu,
a’r dydd fel ci bach melyn;
un yn cripian yn ddistaw bach
a’r llall yn swnllyd fel telyn.

Mae blew y nos yn dywyll,
Wrth ganu grwndi’n dawel.
Mae’r dydd yn cyfarth dros bob man,
a’i gynffon yn chwifio’n yr awel.

Mae haid o ystlumod yn hedfan
tu allan i fy nhŷ,
a’r lleuad yn llonydd fel llygad,
fel llygaid y gath fawr ddu.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales