Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Pentreuchaf

Y Sach fach Ddychryn

Yn fy sach fach ddychryn
dwi am roi
“Thhhhhhh” neidr yn igam-ogamu,
cyfarth ci fel cyllell drwy’r pen,
storm yn sleifio fel lleidr yn y tywyllwch,
twrw’r taranau’n taro.

Yn fy sach fach ddychryn
dwi am roi
ystlumod yn haid o fflamengos duon,
trên taranllyd, tanllyd
a’r cledrau’n clecian,
a gwifran drydan
a’i gwreichion yn poeri
fel neidr ragarûg
yn rhybuddio
rhai bach
fel ni.

Cân ar dân

Ffrwydro, sïo,
rocedi yn tanio,
matsien yn cynnau,
sbarclyr yn fflamio,
enfys yn lliwio’r awyr ddu,
gwreichion yn dawnsio
fel sêr yn syrthio.

Wiiiiiii BANG BANG BANG!
A Guto Ffowc yn llosgi ar y tân.

Olwyn Gatrin
yn troi fel ffair,
cyn syrthio fel neidr
farw i’r gwair.
Y sioe wedi darfod a’r lleni’n cau,
ond dwi’n dal i gofio
y fflamau’n ffrwydro.

Wiiiiiii, BANG BANG BANG!
A Guto Ffowc yn llosgi ar y tân.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales