Dwi’n sâl, dim byd i’w neud,
yn gorwedd yn y gwely.
Dim teulu yn y tŷ
a dim byd ar y teli.
Dwi’n syllu drwy y ffenest
a gweld fy ffrindiau i gyd
yn chwarae gêm tag-rygbi
heb boeni am ddim byd.
Yn sydyn dwi’n gweld pawen wen
yn crwydro lawr y stryd,
yn cropian fel rhyw deigr
a’i gamau’n wlyb fel glud.
Mae’r camau yn cyflymu
fel caseg eira fawr,
a’r ôl traed igam-ogam
fel streipiau ar y llawr.
Dwi’n gweld llinellau llithrig
ar gôt y teigr gwyn,
a dwy bêl o blu llachar
sy’n creu dau lygad syn.
Y gwddw fel gwlân meddal,
a’r gynffon hir fel lluwch,
yn gry fel Gwynt y Gogledd,
yn troelli’n uwch ac uwch.
Dwi’n teimlo’r cyffro’n codi,
dwi’n llawn o egni hud,
yn ddigon iach i fwyta
fy hoff greision ŷd!
Mae’n ffrindiau i gyd yn hapus
yng nghwmni’r anifail prin.
Dwi’n brysio mas i’w canol
i gyffwrdd ei flew gwy...
Ond wrth i’r teigr neidio
yn erbyn coeden fawr,
mae’n toddi fel Slush Puppie
yn siwrwd ar y llawr.
Dwi’n teimlo mor ddigalon,
ond medd Mam: "Paid â phoeni!
Mae mwy o deigrod ar eu ffordd;
daw’r eira’n ôl yfory!"
Blwyddyn 4A
Pe bai 'ngwallt wedi’i wneud o licrys,
a fferins coch yn ffurfio 'ngwefus,
a’n llygaid wedi eu gwneud o fefus,
mi fyddwn i yn fachgen hapus!
Pe na bai’r byd yn grwn, ond yn sgwâr,
byydai’r dŷr a’r môr yn llithro i’r gofod,
a’r cychod i gyd yn cwympo i’r jâr;
byddai hyn yn bendant yn bwnc trafod!
Mae yna ddynes yn byw yng Nghaerdydd
sydd wastad yn cysgu drwy gydol y dydd,
fel ystlum diog, drwg yn chwyrnu,
a blanced dros ei phen, rhag rhynnu.
Ni ydi’r grŵp sy’n casau mathemateg,
Man U a miwsli,
Tomos y Tanc a Tweenies,
Brats a Barbies,
sbrowts a scowts,
brocoli a balerînas,
gwely a gwaith cartref.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales