Clywaf y poer poeth
yn glawio’n gyson,
y stafell yn tywyllu
a’r storm yn agosau.
Clep annisgwyl
y daran gyntaf.
Llonyddwch
llethol
sy’n dilyn.
Cyfri’r eiliadau
cyn y fellten nesa.
Tymer yn berwi,
tywyllu,
ffrae yn ffrwydro,
geiriau yn genllysg,
atsain, bloeddio,
taranu, bytheirio.
Y daran olaf.
Distawrwydd
a’r drysau
yn cau.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales