Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Tirdeunaw

Cerddi San Ffolant

Tlws yw’r afon fach yn canu,
tlws yw’r ffrindiau sydd yn rhannu,
tlws yw’r gloch sy’n mynd am dri,
ond tlysaf oll yw 'nghariad i.

Hardd yw Blodeuwedd a hardd yw Branwen,
hardd yw’r blodau sy’n dilyn Olwen,
hardd yw Dwynwen ac Angharad,
ond harddaf oll yw f’annwyl gariad.

Hardd yw Henson, yn gryf a golygus,
hardd yw Dewi a’i wên ddireidus,
hardd yw Hook a’i gic dros y tŵ,
ond harddaf oll wyt ti i mi.

Blwyddyn 6

Ti (Aralleiriad i benillion Edward H Dafis)

Ti yw’r lili gyntaf sy’n tyfu ar y bryn.
Ti yw rhythm yr alaw yn llais yr angel gwyn.
Ti yw lliwiau’r enfys
a’r cinio ar ddydd Sul.
Ti yw’r chwarter miliwn ar ‘Deal or no deal!’

Ti yw’r Dafydd ifanc sy’n llorio'r hen gawr.
Ti yw’r ceffyl cyntaf sy’n ennill y ras fawr.
Ti yw’r clustog melfed
ar waelod fy ngwely i.
Ti yw y rheswm am y ddawns yng nghynffon fy nghi!

Ti yw sŵn yr adar sy’n canu yn y gwynt.
Ti yw curiad calon sy’n pwmpio’r gwaed yn gynt.
Ti yw’r rhuddem brydferth
sy’n ddisglair yn yr haul.
Ti yw’r cerdyn Ffolant
cyntaf dwi’n ei gael...

CYT: Ti, dim ond ti,
dim ond ti i mi.

Ofn

Danadl poethion yw ofn, sy’n llosgi’n sydyn,
yna’n troi’n groen gwyddau wedyn.

Sŵn crensian rownd cornel,
brigyn yn hollti,
sgrech merched Beca tu fas i'r tolldy.

Gwichian y glo
yn llosgi a phoeri,
udo blaidd a’r gwaed yn oeri.

Taranau’n cynyddu
yng nghanol y môr,
curiad calon yn codi fel côr.

Carnau ceffylau’n
carlamu’n gynt,
adlais chwiban a griddfan y gwynt.

blwch yw ofn;
agorwch y clo...
a welwch chi byth y goleuni 'to!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales