Ni ydi’r grŵp sydd yn hoffi gwres, haul a hufen iâ, popcorn a phres, awyren ac adar, neidio a nofio, siocled a siopa, cwch a campio. Mae yna ddyn yn byw ym Mhen Llŷn, sy’n hoffi bod ar ei ben ei hun, drwy y dydd yn oer yn ei dŷ, a neb yno i’w gnesu.
Ni ydi’r grŵp sy’n hoffi Affrica,
Zambia a Namibia, Botswana a De Affrica,
Mali a Moroco, Angola ac Algeria,
Cairo a Congo, Asmera ac Eritrea.
Ni ydi’r grŵp sy’n casau siopa,
dillad a drwm, sbrowts a soffa,
madarch a mêl, parot a pysgota,
llygod a llyfrau, tarw a toileda.
Pe bai’r lleuad yn gallu siarad,
byddai’n gwisgo dillad cŵl
a llawer iawn o bling-bling
sydd yn clencian: tsing-tsing!
Ni ydi’r grŵp sy’n hoffi hufen iâ,
llyfr a llo, ffrindiau a ffa,
cracyrs a caws, y byd a bwyd,
eliffant ac eira, llwynog a llwyd.
Ni ydi’r grŵp sy’n casau madarch,
dinasoedd a deintydd, clown a cadach,
te a tomato, Jac Russel a jam,
licrys a leim, hambyrgyr a ham.
Mae yna hogyn sy’n byw yn Gaernarfon
sydd bob dydd yn nofio yn yr afon.
Un diwrnod, tarodd i mewn i gwch,
ac yna trodd y gwch yn llwch!
Ni ydi’r grŵp sydd yn hoffi toffi,
licys a loli, crép a coffi,
eira ac eirlys, gwynt a glaw,
teulu a tedi, enfys ac eirlaw.
Ni ydi’r grŵp sy’n casau crïo,
llygredd a llosgi, cega a cwffio,
paffio a poen, mellt a mwg,
ffraeo a fferu, digalon a drwg.
Mae yna eneth o Sir Fôn,
na allai fyw heb ei ffôn.
Un daeth mi aeth i lawr i’r traeth,
a gyda’r llanw, y ffôn a aeth!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales