Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2006-7 Ysgol Y Bronllwyn

Mamgu

Pe bai Mamgu yn byw yn y sŵ,
mi fyddai hi yn gangarŵ,
yn rhedeg a neidio o gwmpas y lle,
yn brysio a ffysio wrth baratoi te.

Pe bai Mamgu yn byw mewn cawell,
mi fyddai hi’n barot yn ei chastell,
yn clebran drwy’r dydd, ac weithiau drwy’r nos,
yn ei dillad lliwgar byddai’n canu’n dlos.

Pe bai Mamgu yn llew mewn ffau,
fyddai ei cheg hi byth yn cau.
Mi fyddai hi’n rhuo arna i,
ond mi fyddwn i’n dal i’w charu hi!

Blwyddyn 5 Dosbarth 8

Rap yr eira

Mae 'na hud dros y byd,
mae 'na eira ar y stryd.
Mae fel pili-pala iâ
yn glynu fel glud.

Mae e’n gorwedd ar y llyn
fel Slush Puppie gwyn,
ac mae’r plant i gyd
yn syllu’n syn.
Mynd mas yn fy mhajamas
a’n welis glas.
Dwi’n taflu pêl eira
at y dyn eira cas.

Dwi’n sglefrio a slejo
a chwarae yn yr iglw.
Dwi’n gneud caseg eira
a hedfan ar y carw.

Dwi’n deffro yn y bore
a 'sdim eira ar y stryd,
ond ges i gymaint o hywl,
fyddai’n ei gofio o hyd!

Blwyddyn 5 Y Dosbarth Arall!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales