Ieir rhyfedd sydd gan Ianto,
maen nhw wrth eu bodd mewn glaw
a hyd yn oed mewn storom
fydd rhain byth yn cael braw.
Dŷn nhw ddim yn gwisgo welingtons
nac ambarels, bid siŵr,
ond fedr neb ei wadu -
maen nhw'n hynod hoff o ddŵr!
Maen nhw'n gallu dal eu gwynt am awr;
Os yw'n bwrw hen wragedd a ffyn,
maen nhw'n gwisgo'u snorcyls a fflipars
ac yn plymio i ganol y llyn!
Bydd un yn mynd yn ddyfn iawn,
Drwy fenthyg wyau'i chwaer,
a'u strapio ar ei gefn;
maen nhw'n gwneud fel tanciau aer.
Y ceiliog hwn yw Elvis
ac mae Brylcreem ar ei grib;
pan fo cân roc ar y radio
bydd yn rhuthro draw ar wib
gan droi y sain yn uwch ac uwch
wrth ddawnsio roc a rôl
neu glochdar ganu "Hound dog"
hefo'r defaid ar y ddol.
Fo yw'r ceiliog dandi tanddwr
a phan nad yw'n arwain côr,
mae'n gweithio ar rigs olew
a llongddrylliadau'r môr.
Mae'i chwiorydd ac yntau'n anhygoel,
ond y peth sy'n fy nigio i fwya'
bu rhaid imi ddysgu nofio'r un fath
er mwyn imi gasglu eu hwya'!
Blynyddoedd 3 a 4
Dyma hanes fy nghefnder i, Cai:
tra bo eraill yn tyfu, mae o'n mynd yn llai.
Mae'r oen yn troi'n ddafad, daw adar o'r nyth,
aiff ebol yn geffyl, ond Cai sy'n llai fyth!
Ca'dd ei eni'n chwe throedfedd ac yn bymtheg stôn,
roedd sgrech ei fam druan i'w chlywed ym Môn!
Roedd ei goets yn rhy fychan, cafodd lori yn lle.
A chyrtens fel clytiau! A rhaw yn llwy de!
Roedd ei fam yn gwaredu, yn dechrau colli ffydd,
nes trio "Para - shrink - amol" a "Llai - osyn" bob dydd.
Roedd yn ffisyg mor bwerus, aeth Cai yn llai dros nos,
collodd droedfedd ar ôl troedfedd, a stôn ar ôl pob dôs.
Ond pan stopiodd gael y moddion, roedd yn dal i fynd yn llai,
nes fod o'n llai na modfedd - bocs modrwy yw llofft Cai!
Mae'n chwarae pêl a physan, gwyniadur yw ei fath,
mae'n byw ar ben y dresal rhag ei fyta gan y gath.
Mae'n bwyta gyda chopsticks sydd wedi'u gwneud o flew;
mae'n hoffi cael stêc chwannen, ond aiff o byth yn dew.
Er mor fawr oedd Cai pan gafodd ei eni,
mae'n dipyn teneuach, a lot llai eleni!
Blynyddoedd 5 a 6
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales