Mae carw yn Llandrillo yn Rhos
Sy'n meddwl mai fo 'di Santa Clos
Mae ganddo farf a siaced dlos
Sydd o'r un lliw â thomato sos
A Siôn Corn druan yn disgyn i'r ffos
'rôl gorfod tynnu'r sled drwy'r nos!
A draw yn nhre' Llandudno
Mi glywais sôn fod cadno
Sydd isio bod yn gorrach
A gwneud anrhegion harddach.
Blynyddoedd 3-6
Ar draeth Deganwy un diwrnod, daeth tyrfa fawr gerbron,
I ddewis brenin Gwynedd drwy'r gystadleuaeth hon:
Sef aros am yr hira' ar gadair yn y lli,
A'r un heb ffoi na boddi a fyddai'n mynd â hi.
Roedd un â chadair sgleiniog, un arall ag un bŵl,
Ac un â gorsedd drudfawr, yn meddwl fod o'n cŵl!
Cadeiriau trwm ac ysgafn, rhai llydan a rhai cul;
Ac un 'di dod â soffa, a'i chludo ar gefn mul.
Arglwyddi a brenhinoedd o bedwar ban y byd
Ac yn eu plith roedd Maelgwn oedd am eu curo i gyd.
Roedd ganddo was reit gyfrwys - a Maeldaf Ffals oedd o-
Ddyfeisiodd gadair ryfedd, yr orau ers cyn co'.
Adenydd pren oedd arni, a'r rheini'n aur i gyd.
Arnofiai ar y tonnau fel tasai'n gadair hud.
Roedd Maelgwn dal i eistedd, yr olaf ar y môr;
"Y fo 'di'r brenin gora!" meddai'r lleill i gyd fel côr.
Doedd o ddim bob tro'n garedig; fe allai fod yn gas,
Ond roedd yn wir ddiolchgar fod ganddo gystal gwas.
A heno mae'na barti, mae pawb yn gallu mynd,
Y tlawd a'r cyfoethogion, pob un yn dod â ffrind.
Ar y Fardre yn Neganwy, bydd pawb yn dod ynghyd
I ganmol Maelgwn Gwynedd sef brenin gorau'r byd!
A rhaid i bawb roi pennill er mwyn yr hwyl a'r sbri,
A dyna yw'r llinellau hyn a ganaf nawr i chi!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales