Pry copyn dewr ar y creigiau garw
Yn plethu ei we i gyrraedd y brig.
Sŵn mwrthwl yn taro wrth ddyrnu'r llechi;
Sŵn drilio'r cerrig fel cnocell y graig.
Llosgi'r gannwyll i gynnau'r gwreichion;
Dyn yn gweiddi nerth esgyrn ei ben!
Ffrwydriad ffyrnig a'r graig yn wenfflam -
Ffrwydriad enfawr yn hollti'r nen!
Cerrig llwyd yn tasgu'n bendramwnwgl,
Dynion yn rhuthro fel sgwarnogod chwim.
Ogle tagu ar y llwch, ogle drwg twll y mwg;
Daw canol y ddaear enbyd yn nes ac yn nes!
Teimlo'n flinedig 'rôl diwrnod trwm,
Gwerthu'r graig am fywyd teg.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales