Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2008-09 - Ysgol Pen Barras, Rhuthun

Fel orang utan yn araf a hen
Yn cerdded i fyny'r graig hefo'i ddril
Yn teimlo llawn ofn wrth ddringo'r rhaff.

Mae'r dril yn curo fel cnocell y coed
Yn tyllu'r graig i fwydo'i blant
A'i law'n crynu er nad yw'n oer.

Mae'r neidr beryglus yn y graig
A'r fflam yn llosgi'r powdwr du
Ofnus nerfus cyn daeargryn.

Bloeddio "Enbyd! Enbyd! Enbyd!"
Dianc fel pry copyn yn disgyn o'i we
Llithro lawr rhaff a'i galon yn ei wddw

Pobl yn dianc fel morgrug
Cerrig yn disgyn ar hyd y llawr
Cerrig bach a cherrig mawr
Cerrig fel cenllusg a'r ffrwydrad fel tân gwyllt

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales