Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2008-09 - Ysgol Pentreuchaf

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio
Y ffuret a fi yn paffio,
Cwningen sy isio bod yn faer
A sgodyn aur sy'n smocio.

Un rhyfedd iawn yw 'mrawd i, Rhys;
Un diwrnod, 'wnaeth o fwyta'i grys,
Ac yna'i drowsus am fod o ar frys
Cyn llyncu'i 'sgidia heb godi chwys
A bresys plismon…a brathu'i fys!
A rŵan mae Rhys ar ei ffordd i'r llys!

Rhai rhyfedd iawn yw pobl 'Ffôr
Mond un a hanner sy'n y côr
A rheini'n 'marfer dan y môr
Rhyfeddach fyth yw criw Rhosfawr
Yn plannu'i gilydd dan y llawr
Yno maen nhw'n cysgu nawr.

Blynyddoedd 3-4

Chwarelwr

Chwarelwr yn straffaglu i fyny'r llethr
A'i dwmffat yn siglo.
Symud fel cranc ar wyneb y graig
Fel pry cop yn adeiladu ei we.
Clinddarach dril cyn clec y morthwyl,
Mwg yn arnofio fel huddug,
Clywed cân adar cyn taran y ffrwydriad,
Gwasgarant fel y tri mochyn bach.
Rhedeg i ffwrdd yn ofnus a'r ffiws yn byrhau
Pawb yn ffoi fel haig o bysgod,
Ei law yn gwpan am ei lais,
Mae ENBYD yn rhybudd rhag siarc y chwarel.
A fydd o'n dianc?

Blynyddoedd 5-6

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales