Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2008-09 - Ysgol y Gorlan, Tremadog

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio;
Colli pan dwi'n cwffio,
Colli'n ffordd ynghanol dydd
A'r trydydd? Methu cofio.

Rhai rhyfedd iawn yw criw Rhyd-ddu
Mae pob un hefo tair mamgu
A phawb yn hoff o fwyta plu
Gan feddwl fod o'n wneud nhw'n gry'.

Siafio

Sebon siafio'n wyn fel eira
sŵn gwenynen y siafiwr
A'r tyweli'n damp yn y fasged

Tap yn rhedeg mewn i'r sinc
Blew'n disgyn fel plu eira du
A'r dŵr yn troelli'n wyn.

Haws trin rasal na geiriau
Tap poeth ymlaen a'r lle'n stemio'n sydyn
Sŵn tynnu plwg fel atalnod llawn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales