Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2008-09 - Ysgol y Mornant, Picton

Dathlu’r Pasg yn Sir y Fflint

Mae'na estrys frown yng Ngwespyr
Sy'n pori mewn cae hud
A ffens Kit Kat o'i chwmpas
I'w gwarchod rhag y byd.

Mae'n gallu dodwy wyau
A rheini'n flasus iawn
Achos siocled yw y plisgyn -
Wel, dyna ichi ddawn!

Ac ymhob wy mae Smarties,
Rhai oren, pinc a glas
(nid estrys fechan fflwffi)
-mae'n brysur iawn bob Pasg!

Ac maen nhw'n cloddio'r papur metel
O hen waith Parlwr Du,
A'i lapio am yr wyau -
Mae'n sgleiniog ac yn gry'.

A draw ym mhentre Gronant
Yn tyfu ar y coed
Mae bocsus dal wy siocled
Mor lliwgar ag erioed.

A dyna pam mai Sir y Fflint
Yw'r orau yn y byd,
Pob clod i estrys Gwespyr
Sy'n dodwy'r wyau i gyd.

Ond peidiwch trio'u dwyn nhw
A'u cuddio yn eich freezers
-daw plant y Mornant ar eich ôl
a'ch saethu â Maltesers!

Blynyddoedd 5-6

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales