Un ddigri iawn yw'n ffrind i Non
Yn rhoi sos coch ar gefn ei sgon
Tra'n waldio'i hunan hefo ffon
- hynny sy'n gwneud iddi deimlo'n llon.
Mae pawb yn nabod Sali Mali
Yn gyrru tractor yn y rali;
Hefo crempog mae'n parasiwtio,
Yn syrffio'r don ar ben bwrdd smwddio.
Blynyddoedd 3-6
Symud drwy'r dorf fel gwthio drwy'r rhedyn
Gan chwilio'n ofer am blatfform gywir;
Trenau'n rhuo, plant yn ffraeo,
Gwadnau'n clopian, sodlau'n clecian
Traed yn t'rannu, rhuthro a thuchan.
Dyma'r saith swnllyd fel ynys o liw,
A'u bagiau fel 'tasen nhw'n symud i fyw.
Sŵn cacwn yn llais yr uchelseinydd,
A'r rhain fel gwiwerod yn neidio i'r cerbyd;
Yr athro'n eu cyfri rhag colli'r un plentyn,
Chwiban y giard,
Mae'r trên yn cychwyn.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales