Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Cerddi 2010-11, Ysgol Hafodwenog

Cymru

Rwy'n byw yng ngwlad y ddraig,
Ac rwy'n siarad yr iaith Gymraeg.

Bara brith a chawl cennin
Sy'n fwyd digon da i frenin.

Ar ben y bryn mawr
Mae castell yn union fel cawr.

Ble roedd Myrddin y dewin
Yn hoffi dawnsio gwerin.

Mae copa'r Wyddfa i'w weld o bell,
A bydd cerdded y mynydd yn fy ngwneud yn well.

Rwy'n hoffi gwrando ar Duffy a Tom,
Mae nhw'n fy ngwneud i deimlo'n llon.

T. Llew Jones sy'n awdur o fri,
Mae ei lyfrau ef yn hwyl a sbri.

Joio yn y 'Steddfod yn yr haf,
Gan obeithio y cawn dywydd braf!

Dwi'n hoffi Pice ar y Ma'n
A chlywed y Cymry yn canu cân.

Mae Shane Williams yn enwog iawn,
Wrth gicio a rheseg - mae ganddo ddawn.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn llawn trysorau,
Dewch i ni ddarllen rhwng y cloriau.

Tywysog cadarn oedd Glyndwr,
Roedd pawb yn Lloegr yn ofn y gŵr.

Cenhinen bedr sy'n bwysig i mi,
A Dewi Sant - ein Nawddsant ni.

Y ddraig goch yn chwifio ar ein baner ni,
Canwn yr anthem, 'Hen Wlad fy Nhadau i mi'.

William Morgan sy'n arwr i mi,
Cyfieithodd y Beibl i'n hiaith fach ni.

Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn,
Mae'n hala ni i deimlo'n llawn.

Mae Cymru fach yn bwysig i ni,
Gadewch i ni edrych ar ei hôl hi.

Blynyddoedd 3 - 6, Ysgol Hafodwenog

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales