Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Gweithdy Ysgol Preseli 2007

Criw Crezi Crymych

Roedd Owen yr octopws ofnus
Yn byw mewn braw yn ei fyd,
Yn crynu wrth weld y pysgod bach
A'i wyth coes fel jeli o hyd.

Bethan y babŵn boring
Yn mynd 'mlaen a 'mlaen drwy'r dydd,
Yn clebran am fananas a dim byd mwy
Iddi hi dim ond un pwnc sydd.

Ellis yr estrys enwog,
Ffrind gorau i Beckham a Habana,
Ei wejen yw Katherine Jenkins
Ac mae'n gwisgo Dolce a Gabbana

Louise y lama lŵpi,
Mae hon wir off ei phen,
Mae'n boncyrs, yn nyts, yn cwcw, yn ddwl,
O'r nefoedd gawn ni help plis? Amen.

Cari y cranc cyflym
Yn rasio fel roced ar hyd lle,
Yn glouach na Shane a Kelly Holmes
Ond yn anffodus, wastad yn mynd i'r dde.

Emyr yr eryr egnïol,
Yn llenwi ei fola ag E's,
Yn codi pwysau, yn mynd i'r gym
Ac yn bencampwr ar gampau’r trapîz

Sam y spaniel speitlyd
Yn chwarae triciau cas,
Yn dwyn esgyrn wrth gi sy'n llai nag e
Rhyw ddydd, gaiff ei ddala mas.

Mrs Howells yr hipo hyderus
Yw bòs y criw bach hwn,
Yn gweiddi, yn sgrechian fel gwdi-hŵ
Ond mae'n werth y byd yn grwn!

Felly os ewch chi byth i Grymych-
Dewch i gwrdd â ni!
Fe gewch chi sioc i'n gweld ni gyd
Ond jawch, fe gewch chi sbri!

Dosbarth 7s

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales