Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddi 2008-09

Cerddi 2007-08

Cerddi 2006-07

Cerddi 2005-06

Cerddi 2004-05

Cerddi 2003-04

Gweithdy Ysgol Pwll Coch 2007

Byd Porffor Polly

Roedd Polly'n hoffi porffor
Porffor oedd ei byd
Porffor oedd ei dillad
Yn cerdded lawr y stryd.

Porffor oedd ei beic,
Porffor oedd ei thŷ,
Porffor oedd ei chas pensiliau
A phorffor oedd ei chi!

Porffor oedd ei ffrog
A phopeth roedd yn ei wisgo
I fynd i'r siop, neu'r ffair neu'r dre,
I'r capel neu i'r disgo.

Porffor yw ei phajamas
Mae'n amser mynd i'r gwely
Caewch y drws mawr porffor,
Helo Mistar Tedi!

Coch

Mae'r faner goch yn chwifio fry
I'r bois sy'n brwydro drosom ni,
Mae'r dorf yn canu'r anthen yn gry'
A'r ddraig yn rhuo i ti a mi.

Mae'r tân yn llenwi'r maes i gyd,
Wynebau cochion yn chwysu o hyd,
Does dim arall yn y byd
Sy'n gallu dod â ni ynghyd.

Mae gwaed yn berwi wrth i ni frwydro
A'r dorf fel dreigiau gwyllt yn rhuo,
Y fflamau coch i gyd yn rhuthro
Drwy wythiennau'r pair, sy'n ffrwydro.

Mae'r pwyntiau ar y bwrdd yn codi
A'r galon goch yn gweiddi "Cymru!",
Un cais arall, mae'r lleisiau'n gweiddi...
Mae Cymru i gyd yn gwenu heddi.

Glas

Mae'r wawr yn torri yn Paris bell
Y crysau glas yn deffro,
Mae'r dorf yn rhuo fel taranau a mellt
A'r "Mexican Wave" yn crio.

Mae'r crysau glas fel tonnau'r môr
A'r crysau glas golau fel afon,
A'r don fawr las yn y Stade de France
Yn rhoi pawb ar ben eu digon.

Ond mae'r tywyll a'r golau yn awr yn gylch
Yn gymysgedd chwyslyd glas,
Yr awyr yn edrych fel cefnfor dwfn
A'r maes yn troi yn gas.

Pum pwynt fan hyn a tri phwynt fan draw
Y Stade de France yn bwll o ddagrau,
Mae'r cais ar trosiad yn ddigon nawr
A Ffrainc wedi colli ei harfau!

Pinc

Daeth diwedd dydd,
Yng nghanol haf,
Ac mae'r awyr
Yn gwrlid pinc.

Cymylau meddal candi fflos,
Yn hedfan drwy'r awyr.
Tafod hir yn ymestyn,
I flasu'r candi, braf o haf.

Awel dawel y nos
Yn ymuno yn y dawnsio.
Y brigau tal i gyd
Yn gwneud eu dawns bale.

Siapiau adar yn yr awyr
Y bore canlynol fydd i gyd yn dawel.
Y sêr a'r lleuad yn mynd i grwydro,
A gwefusau pinc yn cusanu'r bore.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales