Bydd Eurig yn ymweld ag ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled y wlad yn ystod y flwyddyn. Os oes diddordeb gan eich ysgol wahodd Eurig i gynnal gweithdy yn yr ysgol cysylltwch â barddplant@ llenyddiaethcymru.org cyn gynted â phosib. Cofiwch taw'r cyntaf i'r felin gaiff falu.
Ganed Eurig yng Nghaerdydd, ond symudodd y teulu i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed. Aeth i Ysgol Gynradd Melin Gruffudd, Ysgol Gynradd y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin, cyn mynd ymlaen i'r coleg yn Aberystwyth i astudio'r Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu.
Mae Eurig yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac mae'r partneriaid yn ddiolchgar i'w gyflogwr am ei ryddhau o'i waith am gyfnodau i gyflawni'r rôl.
Dechreuodd gael blas ar farddoniaeth wrth astudio cerddi Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen ac eraill yn yr ysgol. Yn 13 oed dysgodd ei hun i gynganeddu gyda help Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd. Enillodd Gadair yr Urdd yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2006, ac mae wedi dod yn ail deirgwaith yn olynol yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth o'r enw Llyfr Glas Eurig a chyfrol o farddoniaeth plant o'r enw Sgrwtsh!.
Meddai Eurig: "Mae'n anrhydedd mawr iawn cael fy ngofyn i gydweithio gyda beirdd bach Cymru. Mi o'n innau'n fardd bach hefyd un tro, er nad o'n i'n gwybod hynny ar y pryd, ac mi o'n i wrth fy modd yn darllen cerddi gwirion. I ddweud y gwir, cerddi gan fy rhagflaenydd enwog dwi'n eu cofio orau, cerddi am foi o'r enw Arwel a oedd wastad yn dawel, ac am dorri wy gyda llwy! Cerddi llawn hwyl yw cerddi Dewi Pws, a fy nod i yw sicrhau y bydd plant Cymru'n cael yr un faint o hwyl gyda fi dros y ddwy flynedd nesaf. A gyda lwc, ni fydd fy nghorun i'n edrych yn rhy debyg i gorun Mr Pws erbyn y diwedd!"
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales