Yno y mae'r plant yn gwylio
llongau lliwgar mawr yn hwylio.
Yno y mae creigiau serth
a phlant yn chwarae a'u holl nerth.
Yn y pellter linell y gorwel
lle mae'r barcud yn dawnsio'n uchel.
Anialwch o dywod ger y bae
nid oes sôn am unrhyw gae.
Mae y tonnau yn carlamu
fel cwningod gwyn yn llamu.
Gorwedd mae y gwymon gwyrdd
troi a throsi mewn amrywiol ffyrdd.
Yno y mae'r tonnau'n duo
a'r gwylanod bach yn crio.
Taro y mae'r tonnau nawr
gwthio'n erbyn y creigiau mawr.
Ar y traeth mae'r tonnau'n rhuo
ac mae'r adar yn dihuno.
Yno y mae'r dŵr yn tasgu
lle mae'r creigiau'n cael eu crasu.
Nawr mae'r mor yn cysgu'n dawel
ac nid oes na si nac awel.
Ffarwel i'r haul, mae'r dydd ar ben
y lleuad ddaw i'w le'n y nen.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales