Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2004-05 Ysgol Gynradd Llangynnwr

Beirdd Ysgol Gynradd Llangynnwr

Y môr yn cropian dawel
i'r traeth ar frig yr awel.

Eli haul yn toddi trwyn
tywydd garw nawr yn fwyn.

Gwylan ddireidus un prynhawn
yn dwgyd chips yn gyfrwys iawn.

Y plant fel anghenfilod
yn difetha cestyll tywod.

Pysgod tawel yn y dŵr
seren fôr yn codi stŵr.

Modryb Meg fel morfil mawr,
gorwedd yn llonydd fel rhyw gawr.

Tywel twym tadcu'n torheulo
ar y traeth fel cwch yn hwylio.

Pêl yn uchel fry uwchben,
machlud haul yn codi'i phen.

Anialwch gwag y gaeaf
Y dyrfa ar ei lleiaf.

Gwymon gwyllt yn dawnsio
Nid llonydd iawn mohono.

Slefren fôr fel brenin oer,
Moel ei gorff o dan y lloer.

Dim sôn am gestyll tywod
ond stormydd gwael a chawod.

Arfordir blin yn cysgu
Dihuno wnaiff yfory.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales