Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2005-06 Ysgol Maelgwn

Grŵp Ffion a Llŷr

Anodd iawn bod yn chwaer fawr,
Anodd iawn yw gweld pen cawr,
Anodd iawn yw gallu ennill,
Anoddach fyth yw sgwennu pennill.

Mae tri peth yn annwyl i mi:
y gath, y llygoden ac wrth gwrs y ci,
OND y peth anwylaf nawr i mi,
Yw'r cariad mae Mam yn rhoi i fi.

Grŵp Andrew ac Alisha

Anodd iawn yw symiau hir,
Anodd iawn yw'r 'Steddfod Sir,
Anodd iawn yw bod yn grêt,
Ond mae'n hawdd iawn cael mêt.

Anodd iawn yw symiau hir,
Anodd iawn yw'r 'Steddfod Sir,
Anodd iawn yw bod yn grêt,
Ond mae'n hawdd iawn cael mêt.

Grŵp Chelsey a Miriam

Anodd iawn yw gwaith,
Anodd iawn yw tabl saith.
Anodd iawn yw dreifio car
Pan fo'r car mor fach â jar.

Mae tri peth yn annwyl i mi:
Jiraff, ceffyl a Cassie y Ci.
Ond anwylaf fyth i mi
Yw cerdded ar hyd y lli.

Grŵp Hari a Dafydd

Rhai sy'n meddwl mod i'n grêt,
Rhai sy'n meddwl mod i'n fêt,
Ond mae 'na rai sy'n meddwl 'mod i'n ddrwg
ac rwyf i yn chwythu mwg.

Grŵp Catrin a Bethany

Rhai sy'n meddwl 'mod i'n glên,
Rhai sy'n meddwl fod gen i dlws wên,
Ond rhai sy'n meddwl 'mod i'n gas
Ac fod gen i hen lais bras.

Grŵp Holly a Aron

Rhai sy'n meddwl mod i'n ffôl,
Rhai sy'n meddwl mod i'n côl,
Ond mam sy'n gwybod 'mod i'n wrach
A bob un noson dwi'n gwneud strach.

Grŵp Shaun a Tom

Lle bach da yw Abersoch,
Dyna ble caiff Taid ei foch.
Ond mae'n well gen i fynd i Landudno
i weld y 'Steddfod yn Ysgol Tudno.

Grŵp Megan a Niall

Lle bach da sydd yng Nghaernarfon,
Lle bach gwell yw Aberaeron,
OND well gen i fod yn Nghaerdydd
Yn gwylio rygbi trwy y dydd!

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Cath, pysgodyn a Smot y ci.
Ond y peth sy'n plesio nawr
Yw'r teulu sy'n fy ngharu'n fawr.

Grŵp Rebecca a Kieren

Yn Llandudno'n B&Q
'Dan ni'n prynu Barbiciw.
Lle bach da yw Caergybi
I gael chwarae gêm o rygbi.

Grŵp Timothy a Elgan

Lle bach da yw Abersoch,
Lle mae llawer o sos coch,
Ond gwaeddodd Mam: "Tyd i Rhyl!
Gawn ni hwyl mae o'n bril!"

Grŵp Beth

Mae tri pheth yn annwyl i mi:
Toffi, Taid a bwyta jeli,
OND y peth anwylaf un
Yw bod yn gwely ar ddydd Llun.

Cyfarchiad i Fardd Plant Cymru

Hoffem ddweud hwyl fawr i chi
A diolch am yr hwyl a sbri.
Mererid Hopwood - bardd o fri,
Ta-ta rŵan gennym ni!

Ysgol Maelgwn

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales