Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2006-7 Ysgol Gyfun Bryn Tawe

Hardd a hyll

Hardd yw cân yr adar bach,
hardd yw blas yr awyr iach,
hardd yw’r gloch sy’n mynd am dri,
harddaf oll yw 'nghariad i.

Da yw’r afal yn syth o’r pren,
da yw’r heulwen yn y nen,
da yw’r glaswellt yn yr haf,
da yw dy weld ar fore braf.

Trist yw hunllef ar noson oer,
trist yw wyneb gwelw’r lloer,
trist yw’r dagrau ar y llawr,
pan rwy’n gorfod dweud hwyl fawr.

Hyll yw’r drych yn y bore,
hyll yw colli eich ffrind gore,
hyll yw aros am y Dolig,
hyllaf oll yw calon unig.

Blwyddyn 8

Rap: Y Ciw Cinio

Mae’r gloch yn canu – o na, cinio!
Fy mol yn rwmblo, help, stampîd yn rhuthro!
Rhesi hir o athrawon yn pwnio,
rhagrithwyr – yn dweud wrthyn ni am beidio gwthio!

Dwi’n chwysu a berwi fel y tatws wedi’u tanio,
fel mochyn wedi’i rostio, selsig yn ffrio.
Dwi’n edrych drwy’r drws a 'sdim seddi ar ôl;
does unman yn y byd imi barcio 'mhen ôl!

Mae’r clebran yn codi fel ton ar fîn torri,
platiau’n chwalu a’r tiliau’n chwibanu,
y gloch ar fîn canu a 'mwyd innau’n oeri.
Rhoi llaw yn fy mhoced... o na, alla i ddim credu!

Dwi’n ffrwydro fel roced; help – dim cerdyn!
Dwi’n estyn yn ddyfn am fy arian wedyn.
Ma’r fenyw cinio’n syllu wrth i fy myd dywyllu,
ac yna, o nunlle, mae’r gloch yn canu!

O hip-hip-hwrê – diwedd cinio.
Gwyddoniaeth dwbwl, a 'mol yn dal i rwmblo.

Lliwiau’r meddwl

Wyt ti’n gweld
y glas dwi’n weld?
Ai’r un awyr
sydd uwch ein pennau?
Ai’r môr oer
sy’n llenwi dy feddwl?
Ai dŵr ffres
sy’n llenwi dy geg?

Wyt ti’n gweld
y coch dwi’n weld?
Sgrech larwm
yn y bore bach.
Curiad calon
dros dîm Cymru,
torfeydd yn byrlymu,
dwndwr dryll
a drwm y diafol.

Ai’r un melyn welwn ni?
Sŵn gwibdaith y gwenyn
o flodyn i flodyn,
yn dawnsio’n ysgafn
i’r ffidil a’r ffliwt.
Ai melyster cwstad
sy’n cynhesu dy wefus,
fel bath o fêl
ar fachlud Gwener?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales