Taswn i’n gallu
gafael mewn chwerthin,
mi fysa fo’n cosi fel gwlân cotwm,
crynu fel jeli coch,
llosgi fel metel poeth,
a llithro fel sebon,
cyn diflannu
fel tywod mân
rhwng fy mysedd.
Taswn i’n gallu
clywed blodau,
Mi fysan nhw’n canu
yn swynol fel aria soprano,
cyfeiliant ffliwt a ffidil,
a bysedd yn brysur
wrth ddawnsio ar gitâr Sbaenaidd.
Mae cyffro yn ogleuo
o dôst a bacwn ben bore,
chwistrell atal chwys fy Mam,
gwair gwlyb a thân gwyllt.
Coch fel calon
ydi cân yr adar,
yn donnau mawr melyn
a’r nodau fel ewyn
yn tasgu,
yn tyfu
fel ŷd aur
caeau cefn gwlad.
Ond taswn i’n gallu blasu athrawon
mi fysan nhw fel sôs coch,
weithiau’n sur fel finegr,
weithiau’n blaen fel llyfrau di-liw,
neu’n chwerw fel gwaith mathemateg.
Ac weithiau,
dim ond weithiau
yn felys
fel persawr prin.
Mae ysgol Maelgwn yn ysgol hapus,
ffrindia ffeind ac athrawon campus.
Rhai yn strancio, rhai yn ‘sgwennu,
pawb yn gweithio, pawb yn gwenu.
CYTGAN: Ysgol Maelgwn, ysgol ni,
Dyma’r lle am hwyl a sbri!
Ty’d hefo fi i’r wers chwaraeon,
Ty’d hefo fi i blanu planhigion.
Newid allan o dy ddillad glas
A ty’d efo fi i redeg ras.
CYTGAN: Ysgol Maelgwn, ysgol ni,
Dyma’r lle am hwyl a sbri!
‘Sgwennu straeon ar gyfrifiaduron,
mynd ar dripiau, canu caneuon,
bydis bach bob amser hefo gwên,
pawb yn yr ysgol yn gyson glên.
CYTGAN: Ysgol Maelgwn, ysgol ni,
Dyma’r lle am hwyl a sbri!
Ysgol Maelgwn, ysgol ni,
Dyma’r lle am hwyl a sbri!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales