Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2006-7 Ysgol Penboyr

Ffrwythau fore Llun

Afal ac eirin,
tomato a grawnwin,
ciwi ac oren,
banana a pheren,
hadau mefus
a'r sudd yn felys,
ffrwythau mawr
a ffrwythau bach,
llawer o ffrwythau
i'n cadw'n iach!

Mae'n dda gen i

Mae'n dda gen i gŵn,
mae'n dda gen i rygbi,
mae'n dda gen i'r Dolig
a thaflu conceri.

Mae'n gas gen i salad
a llosg llafn papur,
a Mam yn gneud
i mi fwyta pupur.

Pe bawn i

Pe bawn i'n gallu clywed eira
mi fyddai fel cloch,
fel carol dawel, dawel,
yn feddal fel dillad babi,
yn ddistaw fel llaw yn chwifio.

Pe bawn i'n gallu gweld y gwynt
mi fyddai'n ysgafn fel ysbryd,
yn llwyd pan fo'n llonydd,
yn ddu fel cigfran mwen storm.

Pe bawn i'n gallu blasu Pluto
mi fyddwn yn llosgi fy nhafod
fel hufen iâ mintys melys,
neu bîtsa blasus
na alla i ei rannu â'm ffrindiau!

Cân Hen Ddafad yr Awyr

Mae'r cwmwl fel dafad
sy'n methu â siarad,
ond mae'n gallu brefu
a phrancio a phori.

Yn ddu, gwyn a brown
fel gwallt hen glown,
neu wlân cotwm llaith
yn dilyn ar daith
yn araf, araf,
i gorlan y Gaeaf
a'i chwt ar goll,
a'i chwt ar goll.

Cân: Amser maith yn ôl

Amser maith yn ôl
pan oedd y nos yn dywyll,
mi fyddai ein cyn-deidiau
yn cynnau llawer canhwyll.

Ond pan fydd heddi'n heno,
cynheuwn olau trydan;
gosod plwg a throi y swits,
o'r bwlb daw llewyrch llydan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales