Megan a Megan ac Osian,
Megan a Daniel a Ioan,
Tomos a Kyran a Chloe,
Alex ac Aled a Nansi,
Gwynfor a Ffion a Freddie,
Alys ac Ellis a Harri,
Alyssa, Eluned a Leah,
Miss Williams ac Enda!
Blwyddyn 4 Dosbarth Bendigeidfran
Gorwedd yn gyffrous
yn yr eira ydw i,
yn wyn fel plu,
yn wyn fel plu.
Ymestyn fy mreichiau
fel adenydd addfwyn,
angel ydw i,
angel ydw i.
Y gwynt yn oer
fel anadl cry,
dwi’n hedfan fry,
dwi’n hedfan fry.
Fel gwenyn gwynion
yn gweithio’n ddistaw
uwchben y tŷ,
uwchben y tŷ.
Dwi’n dechrau toddi,
dwi’n taflu conffeti
drosoch chi,
drosoch chi.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales