Diffoddwch y golau,
cauwch y llenni,
cuddiwch.
Sgrech y seiren
yn rhwygo tawelwch y tywyllwch.
Awyren y gelyn fel eryr
yn cylchynu’r awyr...
yna haid yn ymuno.
Bomiau barbaraidd
fel crafangau cyflym
yn cipio eu hysglyfaeth.
Pobl a phlant yn dianc rhag y daeargryn,
llochesi’n llosgi
fel coelcerth.
Cysgodfan yn crynu
uwch y trigolion truenus.
Lludw llonydd.
Dinistr dinas.
A’r heliwr yn dychwelyd i’w nyth.
Blwyddyn 6J
Llew yw Caerdydd
yn cysgu yn y nos,
goleuadau ei lygaid
yn ddisglair-dlos.
Ymestyn yn hamddenol
wrth ddihuno,
mae’n agor ei geg
ac mae’r traffig yn rhuo.
Mae’n aros a gwrando,
arogli ei ginio,
rhedeg am y sebra,
ac yna neidio!
Popeth o’i gwmpas
yn wyn a du,
ei boer yw pob llyn
a dant yw pob tŷ.
Ei dafod yn hongian
fel carped coch,
popcorn blas pobol
yn llenwi pob boch.
Pedair pawen
yn ymosod ar y tir,
Stadiwm y Mileniwm
a’i hewinedd hir.
Canolfan y Mileniwm
a Senedd Caerdydd,
Parc yr Arfau
yn chwyrnu pob dydd.
Tagfa draffig
fel cynffon llonydd,
yn llifo’n slei
fel yr afonydd.
Mae’r llew’n dychwelyd
yn ôl i’w ffau glyd;
Caerdydd yw brenin
dinasoedd y byd!
Blwyddyn 6K
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales