Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2008-9 Poems

Camp Obama

Daeth niwl ar lannau'r Mississippi gyda'r hwyr,
a'r arwyddion neon yn nofio,
wedi gollwng angor o'r strydoedd islaw...

Ac ar y teledu, yn ôl yn y gwesty
daeth hud ar genedl gyfan
a chyd-ddathlais y jiwbili fawr
wrth i ddyn o'r hen gyfandir
gynnig ei obeithion powld
i genedl gyfan gyndyn
o wynion a chyngaethion...

Ond ar sianel arall
yng nghannwyll llygad rhyw stadiwm pêl-droed
gwelais gewri duon
yn hyt-hyt-hyrddio'n chwyrn i'w gilydd,
ac enwau fy hil,
yn Evans a Griffiths a Davis a Jones
yn warthnod ar eu gwarrau llydan...

A champ i'r mab darogan hwn,
roi cnawd am esgyrn etholiad,
chwythu anadl i'r gobeithion powld,
ac impio croen yfory
ar greithiau ddoe...

Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru 2008-9

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales