Mae plismon od yn byw yn Sblot
Sydd byth yn tynnu'i het na'i got;
Gyda'i bastwn mae'n malu cnau
a bwydo gwiwerod bob mis Mai.
Pan ddaw galwad ar ei radio
Fydd y plismon byth yn gwrando -
Bydd e'n siarad gyda'i ffrind -
Wps! Mae'r lleidr wedi mynd!
Aeth â'i gyffion draw i'r Rhath
Ac yno, fe arestiodd gath;
Un noson wedyn yn Nhreganna,
Bwytodd ei bastwn yn lle banana!
Bellach symudodd i Gyncoed
Ond mae dal mor wirion ag erioed!
Un diwrnod tra'n cerdded yn Nhremorfa,
Fe weles i fochyn yn prynu soffa.
Roedd e isie cael un yn ei dŷ
"Paid wasto dy arian," medde fi.
"Ond dwi isie cyfle i ishte yn glyd
- dwi wedi blino ar sefyll o hyd,"
y gwichiodd y mochyn. Atebais fel hyn:
"Der nôl i'n tŷ ni; mae 'na soffa gwyn;
gei di drial e mas tra'n gwylio TV!"
A dyna'n union a wnaethon ni.
Eisteddon ni lawr i weld gêm y Gleision;
Gas e botel o Coke a phaced o greision.
Fe gollon ni friwsion a phop hyd y lle
wrth neidio i'r awyr a gweiddi "hwrê!",
a dawnsio ar soffa i ddathlu y cais!
(Mae wastad yn braf i gael curo y Sais)
Ond roedd traed yr hen fochyn yn fwdlyd i gyd,
Traed drewllyd, traed gwlyb, y rhai butra'n y byd!
A phan ddaeth fy Mam yn ei hôl i'r tŷ
Roedd y soffa gwyn wedi troi yn ddu!
Ac wrth iddi ddweud y drefn yn groch
Y deallais o'r diwedd wir ystyr "traed moch"!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales