Mae menyw ryfedd yn Cross Hands
Yn gyrru car â rubber bands
A gas ei wneud o bren gan saer
Ac mae y teiars oll yn sgwâr.
Mae pobol ddoniol yng Ngorslas
Sydd ond yn bwyta tato glas
A moron pinc a mefus gwyrdd
Ac weithiau'n sugno Mistar Urdd!
Year 4
Ers colli'i dŷ y mae Seithennyn
Yn byw mewn castell yng Nghefneithin.
Diwrnod fy ngeni rôn i'n llefen brics,
Sgramo'n hun â hoelion,
 sgip fel cewyn i 'nghadw i'n lân.
Ar ôl i'm waliau dyfu'n gadarn,
Cribais fy llechi i'r steil ddiweddara,
Cyn i'r teulu cynta symud i mewn.
Dros ganrif a hanner, bûm yn ail ddilladu
 charped, paent a phapur
Er mwyn symud gyda'r oes;
Cefais estyniad fel bola canol oed.
Ond yn fy henaint cefais sgaffalde,
fel ffyn baglau,
a minnau'n simsanu;
roedd plaster fy wyneb yn gracie i gyd;
collais lechi fel gwallt o'r to
- a'r simdde yn stopo anadlu.
Yn awr, dwi'n adfeilio, fy walie'n cwympo,
Fy mhren yn pydru,
Nes bydd dim ond brics fel esgyrn ar ôl.
Bl.5 Dosbarth Mrs. Davies
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales