A glywsoch am f'wncwl Joe?
Mae'r cr'adur wedi colli'i go'.
'Di o'm yn gwybod lle mae'n byw,
yn galw'i hun yn "Tomos Puw".
'Dio'm yn cofio faint 'di'i oed
ac felly bydd yn dringo coed
gan sgipio lawr y lôn i'r dre
gan ddweud wrth bawb, "Dewch draw i de!"
Ac er ei fod o braidd yn hen
Mae Wncwl Joe bob tro yn glên.
Years 5 and 6
Yng ngwesty gwag yr adar
Lle bu cysgod rhag gwynt main y môr
Clywaf atsain pedair canrif
Fel siffrwd adenydd.
Yma bu'r ceidwad yn gweini
A'i ystol a'i bolyn
Yn twtio nyth, yn hel plu
Ac yn casglu wyau beunydd.
Heddiw yng ngwesty'r adar
Mae naw cant o lofftydd llwm
A'r colomen-westeion wedi hen hel eu pac
Gan hedfan heb dalu
Na diolch
Na dim.
Years 5 and 6
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales