Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2008-09 Poems - Ysgol Terrig y Treuddyn

Llifogydd

Mellt yn fflachio'n felyn gloyw
A sŵn y glaw fel dwylo ar ddrwm
Yn stido fel traed yn stampio
A'r dŵr yn llifo i lawr y cwm.

Pigiad y mellt yn chwyddo'r afon
Yn newid ei lliw yn frown a du
A'r dyfroedd yn berwi'n wyllt fel cacwn,
A'r mwd yn corddi, yn llygru'r lli.

Mae'r afon fel brwsh yn mynd lawr y cwm
Yn sgubo canghennau, caniau a chlai,
Y cyfan yn mynd yn llanast i'r môr
A'r pysgod yn crio wrth adael eu tai.

Rasio'n gyflymach gyflymach mae'r afon,
yn bwrw'i hysgwydd drwy ddrysau'r glennydd
cyn gorwedd mewn caeau, wedi ymlâdd,
a'r ffermwr yn achub ei ddefaid o'r dolydd.

Rhai dyddiau distaw yn ddiweddarach
A'r afon bellach yn dawel a dof
Mae marciau ochor bath ar y coed
Yn dangos lle mae'r dŵr wedi bod,

Lle bu'r brigau'n trochi fel dwylo'n y lli
Gan gipio'r gwair a mwd ar ei hynt
Sy'n hongian nawr fel gwymon yn sychu
Ac yn siglo fel rhybudd yn y gwynt.

Years 5-6

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales