Mae pobl od ym Mhenylan
Yn towio pedwar carafan
Yn bwyta'r ffa heb agor y can –
Dwi'n meddwl bod nhw'n hanner pan!
Sion Williams' class
Y Berllan Deg, Caerdydd yw'r berllan decaf un
ac os na fuoch yno, fe dynna'i i chi lun.
Mae yno ellyg blasus yn hongian ar y coed,
eirin llyfn ac eirin gwlanog mor felys ag erioed;
bricyll a cheirios sgleiniog ac afal i bawb o'r criw
- ond yn y berllan yma, cewch ffrwythau o bob lliw.
Mae ciwi a chnau coco yn tyfu yng Nghaerdydd;
lemwn, leim, banana a grawnffrwyth coch ei sudd;
mae oren, ffrwyth y seren ac hefyd ffrwyth y ddraig
(peth addas iawn i'w dyfu mewn perllan mor Gymraeg!)
Ond y plant yw'r ffwythau gorau, yn dod o wreiddiau cedyrn,
yn mynd â'r iaith yn ôl i'w tai, i dyfu yn Llanedyrn.
Ms. Rhianwen Davies' class
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales