Un diwrnod yn y gwanwyn
tra'n mynd â'r ci am dro,
mi welais feic mewn coeden
- dringais fyny ato fo.
Roedd yn hen a hir a rhydlyd
a mwd ar hyd y tsiaen
a doeddwn i 'rioed 'di gweld
beic 'run fath o'r blaen.
Wrth y gloch roedd cyfrifiadur
ac mewn bag bach dan y sêt
roedd llyfr cyfarwyddiadau.
Beic amser oedd o ! Grêt!
Padlo mlaen oedd rhaid ei wneud
i weld y byd a ddaw;
Ond padlo nôl wnes innau
i'r flwyddyn pump saith naw.
Gwelais Dewi yn yr ysgol
yn cwffio hefo'r plant
ac yn cega hefo'i athro
- roedd heb eto ddod yn sant!
Ac oes y deinosoriaid
oedd nesa ar y daith
cyn iddyn nhw farw allan,
a dyma i chi ffaith -
nid comet wnaeth eu lladd nhw,
ond mynd i'r Ysgol Sul;
rôn nhw'n methu cofio adnod -
wnaeth pob un lyncu mul.
Yn olaf wnes i badlo
i fil naw cant un dau
a gweld y llong Titanic
yn hwylio dros y bae.
Ond wrth fynd yn nes i'r llong
mi'i thrawais hefo clec
a suddo wnaeth oherwydd
y twll wnes dan ei dec.
Rôn i'n teimlo'n euog wedyn,
mi ês â'r beic yn ôl
a'i guddio'n twll dan grisiau
ar ôl 'mi fod mor ffôl.
Tro nesa af i arno
i'r dyfodol a'i am daith -
rôl pasio fy mhrawf gyrru
a minnau'n un deg saith!
Year 4 Mr. Gwilym's class
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales