Mae fy llyfr Mathemateg yn borffor,
Mae fy llyfr Mathemateg yn llawn
O symiau cas ac anodd
A rhifau diflas iawn.
Beth alla i wneud heddiw
I wneud y llyfr piws hwn
I edrych fel peth hyfryd?
Daw syniad nawr mi wn!
Mae’n flanced hir o Glychau’r Gôg,
Yn glwstwr o rawnwin melys,
Mae’n 'aubergine' sy’n sgleinio’n braf,
Mae’n finlliw ar fy ngwefus.
Mae’n blwmsen tew, yn ffigys iach,
Yn glogyn smart brenhinol
Ac wrth i mi dy agor di,
O! plîs bydd yn ddiddorol!
Ond dwyt ti’n ddim ond clais i mi
Yn salw ac yn brifo,
Does dim un blodyn nac un ffrwyth
O 'mlaen i – dim ond rhifo!
Gan Aimee, Megan, HollyMc., Tia, Layonie, Mason.
Mae’r bore newydd ei eni,
Babi annwyl a chymylau fel bochau fy chwaer fach,
Fel candi fflos ar lyn glas,
Yr awyr fel carped o betalau a blagur
A’r dydd yn deffro.
Croen babi bach mewn blanced esmwyth
A moch bach hapus yn neidio ac addurno’r nen.
Fel fy chwaer fach binc
A’i gwefusau sws,
Mae’r bore bach,
Y rhosyn sgleiniog,
Yn dweud "Bore Da".
Gan Tom, Molly, Emily, Morgan, Cariad, Amilia, Meredith.
Ein baner...
Y Ddraig yw gwaed y Cymry,
Y Ddraig yw calon ein gwlad,
Tân o’i cheg yn poeri fflachiadau
A’i fflamau yn twymo corff y Genedl
Pob crys coch yn gweiddi "Cymru",
A phob curiad o bob calon
Yn pwmpio balchder ynon ni i gyd,
Ein baner
Sy’n ein tywys
Drwy ddŵr a thân
Ein baner
Yw ein gwlad
Ein baner
Ydyn ni
Gan Daniel, Rebecca, Annabel, Owen, Elie, Celyn.
Mae’r haul fel pelen o dân
Ac mae’r awyr yn gwisgo’i jîîns!
Mae’r pelydrau yn ymestyn aton ni
Yn wincio arnon ni.
"Hei, dewch mas i chwarae,
Mae’n ddiwrnod braf
Ac mae’r timau glas i gyd yn chwarae heddiw,
Ar y maes glas mawr yn yr awyr
Chelsea
Y Gleision
Y Bluebirds
Man City
Reading
Yr Alban
Yr Ariannin
Yr Eidal
… Maen nhw i gyd yma – "
Mae’r nen fel pwll nofio ben i waered,
Ac mae’n amser
I ni sgorio
Gôl enwog,
Y canlyniad gorau yn y byd
Sef
Diwrnod braf!
Owain, Siôn, Jack, Jordan, Chrystelle, Lewis.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales