Mae naws gyfandirol i ddrama newydd S4C, Blodau, a ffilmiwyd yn nhre' glan môr Llandudno.
Mae'r gyfres liwgar, sy'n dechrau'r wythnos hon, yn dilyn tri ffrind, Lili, Cat a Paul.
Mae Lili yn berson creadigol gyda'i steil unigryw ei hun. Fe gollodd ei mam yn ifanc ac ers hynny mae wedi gofalu am ei brawd a'i thad, Siôn, a gweithio yn siop ffrwythau a llysiau'r teulu. Ond yn y bennod gyntaf, mae Siôn yn ailbriodi ac yn mynd ar fis mêl estynedig.
Am y tro cyntaf, mae gan Lili'r rhyddid i wneud ei phenderfyniadau ei hun, ac mae un penderfyniad yn arbennig yn ei harwain ar siwrnai ddiddorol.
Yr actores 27-oed, Rhian Blythe, o bentref Llandwrog ger Caernarfon, sy'n chwarae Lili. Dyma ei phrif rôl deledu gyntaf.
"Hyd yn hyn dw i wedi gweithio yn theatr yn bennaf," eglura Rhian, a enillodd y wobr am yr Actores Orau yng Ngŵyl Fringe Caeredin y llynedd am ei rhan yn y ddrama bwerus, Deep Cut.
Yn y gyfres cawn weld Lili a'i ffrind Cat (Sara Lloyd Gregory) yn mentro i fyd y cynllunwyr blodau. Cat yw'r pen busnes a Lili sy'n gyfrifol am greu trefniannau gwych gyda'r blodau. Mae hwn yn fyd cwbl ddieithr i Rhian, ond mae wedi cael ei hysbrydoli gan waith ymgynghorydd blodau'r gyfres, Sioned Rowlands.
Daeth Sioned, o Fodfari yn Sir Ddinbych, yn agos at y brig yng nghystadleuaeth Cynllunydd Blodau'r Flwyddyn yn gynharach eleni. Mae'n cyflwyno eitemau ar gyfres Byw yn yr Ardd S4C, mae'n rhedeg ei chwmni ei hun, gyda'i mam, yn cynnig gwasanaeth blodau ar gyfer priodasau, ac mae'n darlithio yng Ngholeg Garddwriaethol Llaneurgain.
"Dwi wedi mwynhau gweithio ar Blodau yn fawr iawn," medd Sioned. "Mae wedi bod yn waith caled! Y brif her oedd cadw'r blodau'n ffres yn ystod y ffilmio. Mae blodau yn gwywo, wrth gwrs, ac weithiau roedd yn rhaid rhuthro i'r siopau blodau lleol - sydd wedi bod yn help mawr - i brynu blodau newydd."
Ychwanega Rhian, "Mae Sioned yn wych. Hi sy'n gwneud y gwaith i gyd, a finnau, fel Lili, sy'n cymryd y clod!
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales