Ddeuddydd ar ôl i un o dimau pêl-droed mwya’r byd herio Abertawe, mae’r Byd ar Bedwar yn holi cwestiynau pigog am deyrngarwch y Cymry i glybiau mawr Lloegr.
Ai Man U yw tîm pêl-droed mwyaf pobologaidd Cymru? Ydy cefnogi eich clwb yn bwysicach i chi na’ch gwlad? Ac a ddylai sêr Cymru chwarae yn y gemau Olympaidd dros dîm GB?
Cyffro’r diwrnod mawr, cynnwrf y gêm a chanlyniadau arolwg barn arbennig Y Byd ar Bedwar.
