Yn yr ail o ddwy raglen arbennig ar y diwydiant niwclear, ry’n ni’n datgelu ffigyrau swyddogol newydd am gyfraddau canser yn yr ardal o amgylch unig atomfa Cymru.
Yn ôl rhai gwyddonwyr, mae’r ffigyrau yma’n dangos bod pwerdy’r Wylfa yn achosi marwolaethau o ganser mewn un ardal yng Ngogledd Môn. Ond yn ôl eraill, ffactorau cymdeithasol sydd ar fai.
