Mae Ella Owen wedi bod yn byw yng nghartre gofal Pant Yr Eithin ers bron i 30 mlynedd. Mae ganddi anableddau dysgu sy’n golygu nad yw hi’n gallu byw ar ei phen ei hun. Ond wrth i Gyngor Gwynedd wynebu gwasgfa ariannol maen nhw wedi penderfynu bod yn rhaid cau’r cartre.
Dyma olwg arbennig ar ddyddiau olaf cartre Pant Yr Eithin a brwydr y trigolion a’u teuluoedd i gadw’r lle ar agor.
